5-y-penwythnos

5 y penwythnos-Recovered

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

John Danby (Cei Connah)
Mae Cei Connah’n glir ar y brig ar ôl ennill eu tair gêm agoriadol ond roedd angen ambell i arbediad pwysig gan John Danby i sicrhau’r fuddugoliaeth, yn cynnwys arbediad rhagorol o gic o’r smotyn Declan Walker.

Henry Jones (Y Bala)
Henry Jones oedd yr arwr ar Faes Tegid nos Wener wrth sgorio gôl hyfryd gyda chic ola’r gêm i gipio’r triphwynt i’r tîm cartref.

Nathan Craig (Caernarfon)
Sgoriodd capten Caernarfon ei gôl gyntaf erioed yn UG Cymru wrth i’r Cofis adael y brifddinas gyda buddugoliaeth a’u hail lechen lân mewn tair gêm y tymor hwn.

Danny Redmond (YSN)
Dangosodd Danny Redmond ei safon yn erbyn Caerfyrddin brynhawn Sadwrn wrth reoli’r gêm yng nghanol cae gyda phasio treiddgar a chlyfar. Redmond sgoriodd gôl gynta’r gêm gyda bwled o beniad i gornel ucha’r rhwyd.

Greg Draper (YSN)
Dyw Draper heb ddechrau gêm i’r Seintiau i’r tymor hwn, ond er waetha hynny, y gŵr o Seland Newydd yw prif sgoriwr y gynghrair gyda 4 o goliau o’r fainc i’r pencampwyr.