5-y-penwythnos

5-y-penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Paul Harrison (YSN)
Mae’r Seintiau yn ôl ar frig UG Cymru ond doedd hi ddim yn fuddugoliaeth hawdd ar yr Oval ac roedd rhaid i Harrison fod ar ei orau i gadw llechen lân o flaen torf o 1,345, sef y 10fed mwyaf yn hanes y gynghrair.

Nathan Peate (Derwyddon Cefn)
Mae’r Derwyddon wedi codi oddi ar waelod y tabl fel y cododd Nathan Peate yn cwrt i benio’r gôl fuddugol i dîm Huw Griffiths nos Sadwrn.

Nick Rushton (Y Drenewydd)
Sgoriodd Rushton ddwywaith i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl i’r Drenewydd gartref yn erbyn Y Bala dros y penwythnos. Mae’r Drenewydd yn y 3ydd safle ar ôl dechrau cryf i’r tymor.

Liam Thomas (Caerfyrddin)
Roedd na sioc ar Barc Waun Dew wrth i’r Hen Aur drechu’r myfyrwyr (2-0). Liam Thomas sgoriodd y gôl gyntaf, a’i ergyd o ddisgynnodd i Mael Davies oddi ar y trawst ar gyfer yr ail gôl wedi’r egwyl.

Momodou Touray (Y Barri)
Tarodd Touray ei gôl gyntaf i’r Barri i selio buddugoliaeth wych i griw Barc Jenner yn erbyn y ceffylau blaen Cei Connah. Mae’r gŵr ifanc, sydd ar fenthyg o Gasnewydd wedi serennu hyd yma ac wedi helpu’r Barri i ddringo i’r 4ydd safle.