Aberystwyth i gwrdd â Chei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD

DaQxR-CW0AAtlrc.jpg large
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 8 Apr 2018, 13:14

Cei Connah yn curo Bangor o 6-1 gydag Aberystwyth yn fuddugol o 1-2 yn erbyn Y Drenewydd yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD. Mi fydd Rownd derfynol Cwpan Cymru JD yn cael ei chynnal ar ddydd Sul Mai 6, gyda lleoliad y gêm eto i’w chadarnhau.

Sgoriodd Declan Walker ddwywaith wrth i Aberystwyth sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers pedair mlynedd.

Mae Aber dal I frwydro i osgoi’r cwymp yn Uwch Gynghrair Cymru, ond wedi gweld llwyddiant yn y gwpan wrth guro’r Bala, Met Caerdydd a Chaerfyrddin ar eu ffordd i’r rownd derfynol.

Nos Sadwrn llwyddodd Cei Connah i guro Bangor o 6-1, gan sicrhau lle tim Andy Morrison yn rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 1998.

Sgoriodd Andy Owens hat-tric, gyda Ryan Wignall, Michael Bakare a Nathan Woolfe hefyd yn sgorio i’r Nomadiaid.

Mi fydd Rownd derfynol Cwpan Cymru JD yn cael ei chynnal ar ddydd Sul Mai 6, gyda lleoliad y gêm eto i’w chadarnhau.