Aberystwyth v Met Caerdydd – yn fyw ar S4C

Dko3wP-W0AAh4m4
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 15 Awst 2018, 15:21

Ar ôl ennill eu gemau agoriadol bydd Aberystwyth a Met Caerdydd yn cwrdd ar Goedlan y Parc o flaen camerau Sgorio nos Wener.

Nos Wener, 17 Awst

Aberystwyth v Met Caerdydd | Nos Wener – 19:35 (S4C)
Roedd hi’n ddechrau cadarn i’r tymor i Aberystwyth wrth i dîm Neville Powell ennill 1-0 yn erbyn Llandudno ar y penwythnos agoriadol.

Declan Walker oedd yr arwr unwaith eto, yn sgorio gôl gofiadwy o du allan y cwrt – gôl gynta’r tymor yn UG Cymru, ac am gôl!

Fe gafodd golwr Aber, Leigh Jenkins ei anafu yn yr ail hanner, a dyw Neville Powell heb wastraffu dim amser yn dod â’r golwr profiadol Terry McCormick i fewn i’r garfan yn barod ar gyfer y gêm fawr nos Wener.

Dyw Aberystwyth erioed wedi curo Met Caerdydd yn UG Cymru, ac ond wedi sgorio unwaith yn eu pedair gêm cynghrair yn erbyn y myfyrwyr.

Bydd Christian Edwards yn dychwelyd i’w gyn-glwb yn gobeithio parhau â’r dechrau da i’r tymor i Met Caerdydd yn dilyn buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Y Drenewydd y penwythnos diwethaf.

Roedd na chwe enw newydd yn nhîm Aber nos Wener diwethaf, ond does dim llawer o newid wedi bod yng ngharfan Met Caerdydd.

Ar ôl cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle yn eu dau dymor diwethaf – Ewrop yn sicr yw’r targed i’r myfyrwyr eleni.