Bangor yn sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru

bangor
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 4 Mar 2018, 16:51

Hat-tric i Luke Wall ac i Yves Zama wrth i Fangor guro Penydarren – o 5ed haen y pyramid pêl-droed – 7-0 ar Nantporth yn fyw ar Sgorio prynhawn Sul. Mi fydd enw Bangor y nawr yn yr het ar gyfer rownd gynderfynol Cwpan Cymru, gyda’r broses cyhoeddi gemau rownd gynderfynol Cwpan Cymru yn fyw ar Heno nos Lun am 7 ar S4C.