Caerdydd v Real Betis yn fyw ar S4C

CCFC v Real Betis text
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 25 Jun 2018, 10:59

Fe fydd y gêm gyfeillgar rhwng Caerdydd a Real Betis, o Sbaen, yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C ym mis Awst. Wrth i’r Adar Gleision baratoi ar gyfer eu tymor cyntaf yn ôl yn Uwch Gynghrair Lloegr, mi fydd Neil Warnock a’i dîm yn croesawu’r Los Verdiblancos – a orffennodd yn chweched safle cynghrair La Liga – i Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Sadwrn 4 Awst.

Bydd Sgorio yn darlledu’r gêm yn fyw am 17:00.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Mi fydd wythnosau’r haf yn gyfnod pwysig i Gaerdydd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer tymor enfawr yn ôl yn Uwch Gynghrair Lloegr.

“Mi fydd buddugoliaeth yn erbyn tîm o brif gynghrair Sbaen yn hwb enfawr iddyn nhw cyn dechrau’r tymor newydd, ac yn gyfle i’r garfan greu argraff ar Neil Warnock.

“Mae S4C a Sgorio yn falch iawn o ddarparu darllediad byw o’r ornest hon, wrth baratoi ar gyfer tymor arall o bêl-droed cyffrous yng Nghymru.”

Sgorio: Caerdydd v Real Betis Dydd Sadwrn 4 Awst, 17:00
Sylwebaeth ac isdeitlau Saesneg Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill