Caernarfon v Derwyddon Cefn – Croeso nôl i’r Cofis

caernarfon celebs
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 10 Aug 2018, 23:00

Mae tymor Uwch Gynghrair Cymru yn ôl, ac yn fwy na hynny, mae Caernarfon yn ôl, ac mi fydd y Cofis yn dechrau eu tymor gyda gêm gartref ar yr Oval yn erbyn y Derwyddon brynhawn Sul, gyda’r cyfan yn fyw ar S4C.

Caernarfon v Derwyddon Cefn | Dydd Sul – 17:15 (S4C)
Mae bron i ddegawd wedi hedfan heibio ers i Ganerîs Caernarfon syrthio o Uwch Gynghrair Cymru… ond ar ôl ennill Cynghrair Huws Gray y tymor diwethaf, mae’r Cofis yn ôl o’r diwedd.

Fe gymrodd Sean Eardley yr awennau ar Yr Oval ym mis Tachwedd 2017, a dyw Caernarfon heb golli gêm gynghrair ers hynny!

Roedd hi’n haf i’w chofio i’r Derwyddon gan iddynt gystadlu’n Ewrop am y tro cyntaf ers chwe mlynedd, ac ond am yr eildro yn eu hanes.

Bydd yr enwau newydd, Dean Rittenberg a Jordan Evans yn dod a sbarc creadigol i garfan Huw Griffiths wrth i’r Derwyddon anelu am y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol.