Caernarfon v Met Caerdydd – yn fyw ar S4C

P8126706
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 14 Tach 2018, 14:52

Yn eu tymor cyntaf yn ôl yn Uwch Gynghrair Cymru JD wedi degawd o fwlch, mae Caernarfon wedi mwy na dal eu tir ac mae’r Caneris yn anelu am le’n y Chwech Uchaf.

Un o’r prif wrthwynebwyr yn y ras i’r hanner uchaf yw myfyrwyr Met Caerdydd, sy’n dioddef tymor mwy anghyson yn dilyn llwyddiannau’r ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’n gêm rhwng dau dim agos o ran safon ond gwahanol iawn eu harddull – gêm glos fydd yn dipyn o achlysur o dan llifoleuadau’r Oval.

Dydd Sadwrn, 17 Tachwedd

Caernarfon v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)
Bydd y Cofis a’r myfyrwyr yn mynd benben nos Sadwrn mewn gêm allweddol yn y ras am y Chwech Uchaf.

Mae’r ddau glwb yn dechrau’r penwythnos yn yr hanner isaf ac yn gobeithio cau’r bwlch ar Aberystwyth (6ed).

Mae Met Caerdydd yn eu trydydd tymor yn UG Cymru – ac ar ôl cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle yn eu dau dymor diwethaf – Ewrop yn sicr oedd y targed eleni.

Ond ar ôl cyrraedd y Chwech Uchaf yn eu dau dymor blaenorol yn UG Cymru, mae’r myfyrwyr yn stryffaglu eleni ac yn dechrau’r penwythnos yn yr 8fed safle gyda dim ond wyth gêm i fynd tan yr hollt.

Bydd Caernarfon hefyd yn breuddwydio am gyrraedd y Chwech Uchaf yn eu tymor cyntaf ers dychwelyd i Uwch Gynghrair Cymru.

Ar ôl chwe gêm gynghrair heb fuddugoliaeth, pwy fyddai wedi dychmygu y byddai Caernarfon yn ennill oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd y penwythnos diwethaf!?

Cic o’r smotyn Nathan Craig oedd unig gôl y gêm ar Neuadd y Parc y penwythnos diwethaf, a dyna oedd y stori i Gaernarfon yn erbyn Met Caerdydd yn gynharach yn y tymor hefyd – Met Caerdydd 0-1 Caernarfon.

Canlyniadau diwethaf yn UGC:
Caernarfon: ➖❌➖❌✅
Met Caerdydd: ✅➖➖❌❌