Canlyniadau cymal cyntaf rownd gynragbrofol Cynghrair Europa

European Football – UEFA Europa League – Final – Liverpool FC v Sevilla FC

Gêm gyfartal 1-1 rhwng Derwyddon Cefn a Trakai, ond noson siomedig i’r Bala gyda tîm Colin Caton yn colli 3-0 oddi cartref yn erbyn Tre Fiori o San Marino.

Llwyddodd James Davies sgorio gôl gyntaf Derwyddon Cefn yn Ewrop ond i Kazlauskas sgorio i’r ymwelwyr gyda munudau yn weddill o’r ail hanner i sicrhau gêm gyfartal i’r tîm o Lithuania.

Roedd hi’n noson siomedig iawn i hogiau Colin Caton gyda’r Bala yn colli o 3-0 yn erbyn Tre Fiori o San Marino. Anthony Miley yn rhwydo i’w gôl ei hun cyn i Giacomo Pracucci a Mirco Vassallo rwydo i’r tîm o San Marino.

Bydd Derwyddon Cefn yn teithio i Lithuania wythnos nesaf gyda’r Bala yn croesawu Tre Fiori i’r Belle Vue, Y Rhyl yn yr ail gymal – y ddwy gêm i’w chwarae ar y 5ed o Orffennaf.