Cei Connah allan o Gynghrair Europa

Templed Ewrop Canlyniad Cei Con v SHK jpeg
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 19 Jul 2018, 19:16

Mae tîm Andy Morrison allan o Ewrop ar ôl colli 5-1 dros ddau gymal yn erbyn Shakhtyor Soligorsk yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

Roedd Cei Connah yn wynebu her ar ôl colli’r cymal cyntaf o 1-3 wythnos diwethaf, ond sgoriodd Elis Bakaj o’r smotyn yn yr hanner cyntaf a Maksim Bordachev yn yr ail hanner i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r tîm o Felarws, Shakhtyor Soligorsk.

Bu rhaid i’r Nomadiad chwarae hanner awr olaf y gêm gyda 10 dyn wedi i Andy Owens gael ei yrru o’r cae ar ôl derbyn cerdyn coch.

Y Seintiau Newydd yw’r unig dîm ar ôl yn Ewrop o Uwch Gynghrair Cymru, gyda’r pencampwyr yn wynebu Lincoln Red Imps o Gibraltar yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa wythnos nesaf.