Cei Connah trwodd i rownd gynderfynol Cwpan Cymru

Football – Welsh Cup 3rd Round Draw

Tîm Andy Morrison yn sicrhau gêm yn erbyn Bangor yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ar ôl curo’r Seintiau Newydd 2-1 nos Fawrth. Llwyddodd Y Drenewydd ag Aberystwyth i ennill eu gemau yn rownd yr wyth olaf, gyda’r ddau dîm yn cwrdd yn y rownd nesaf.

Roedd Y Seintiau Newydd wedi gyrru Cei Connah allan o Gwpan Cymru y ddau dymor diwethaf ond llwyddodd tîm Andy Morrison i sicrhau buddugoliaeth heno diolch i goliau Michael Bakare a Callum Morris.

Yn gemau eraill rownd yr wyth olaf llwyddodd Y Drenewydd i ennill 2-0 oddi cartref yn Llandudno, gyda Neil Mitchell a Nick Rushton yn sgorio.

Mae Aberystwyth hefyd wedi hawlio eu lle yn y pedwar olaf gan guro Caerfyrddin ar Barc Waun Dew o 1-3, y golau gan Joe Phillips, John Owen a Malcolm Melvin. Mi fydd Aber yn cwrdd a’r Drenewydd yn y rownd gynderfynol.

Canlyniadau Rownd yr Wyth Olaf Cwpan Cymru
Bangor 7-0 Penydarren
Cei Connah 2-1 Y Seintiau Newydd
Caerfyrddin 1-3 Aberystwyth
Llandudno 0-2 Y Drenewydd

Gemau rownd gynderfynol Cwpan Cymru
Cei Connah v Bangor
Y Drenewydd v Aberystwyth
(I’w chwarae 7-8 Ebrill)

Heddiw mewn hanes

21 Medi

Ar y diwrnod yma ym 1966 chwaraeodd Abertawe y gêm Ewropeaidd cyntaf ar eu tomen eu hunain wrh i Slavia Sofia ymweld â'r Vetch.