Cei Connah v Coleraine yn fyw ar S4C

irn-bru hefo cei coleraine
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 12 Sep 2018, 14:59

Cei Connah i groesawu Coleraine o Gynghrair Iwerddon yn nhrydedd rownd Cwpan Her yr Irn-Bru. Bydd y gêm yn fyw ar S4C ar ddydd Sadwrn Hydref 13, gyda’r gic gyntaf am 1930.

Llwyddodd Cei Connah i sicrhau eu lle yn nhrydedd rownd Cwpan her yr Alban wrth guro Falkirk diolch i gôl Michael Wilde mewn buddugoliaeth o 0-1.

Cei Connah yw’r unig dîm o Gymru sydd ar ôl yn y gystadleuaeth y tymor yma ar ôl i’r Seintiau Newydd golli ar giciau o’r smotyn i Queens Park ar Neuadd y Parc nos Sadwrn diwethaf .

Cei Connah v Coleraine yn nhrydedd rownd Cwpan her Irn Bru’r Alban yn fyw ar S4C, dydd Sadwrn Hydref 13 am 19:30.

Heddiw mewn hanes

20 Medi

Ar y diwrnod yma yn 2009 dechreuodd Cymru eu hymgyrch yng ngemau rhagbrofol Cwpan Merched y Byd gyda gêm gartref yn erbyn Gwlad Belg.