Cei Connah v Coleraine – yn fyw ar S4C

Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 12 Oct 2018, 06:25

Bydd y tîm sydd ar frig Uwch Gynghrair Cymru yn croesawu Coleraine o Ogledd Iwerddon i Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos Sadwrn yn nhrydedd rownd Cwpan Her Irn Bru, gyda’r cyfan yn fyw ar Sgorio am 7:20.

Yn ogystal â chyrraedd trydedd rownd Cwpan Her Irn Bru, mae Cei Connah wedi camu i’r copa yn UG Cymru ar ôl ennill naw o’u 11 gêm ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn.

Fe enillodd y Nomadiaid 0-1 yn Falkirk yn y rownd ddiwethaf, sef y clwb mwyaf llwyddiannus yn holl hanes y gystadleuaeth.

Mae eu gwrthwynebwyr Coleraine yn cystadlu yng Nghwpan Irn Bru am y tro cyntaf ar ôl gorffen yn 2il yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon y tymor diwethaf.

Enillodd Coleraine ar giciau o’r smotyn yn erbyn Formartine Utd yn y rownd ddiwethaf, sef gêm olaf Oran Kearney wrth y llyw cyn iddo gymryd yr awennau yn St Mirren.

Ers penodi’r rheolwr newydd, Rodney McAree yng nghanol mis Medi, mae Coleraine ar rediad o bum gêm heb fuddugoliaeth, ac mi fyddan nhw’n ysu i ddod â’r rhediad anffodus hwnnw i ben ar Lannau Dyfrdwy nos Sadwrn.

Cic gyntaf 7.30. English commentary available.