Cei Connah v Dinas Caeredin

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 21 Tach 2018, 13:51

Cei Connah i groesawu Dinas Caeredin o ail adran yr Alban i Stadiwm Glannau Dyfrdwy yn rownd gynderfynol Cwpan Her Irn Bru.

Llwyddodd Cei Connah i sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol ar ôl buddugoliaeth o 1-2 yn erbyn Queen’s Park ar Barc Hampden – diolch i goliau hwyr George Horan a Michael Wilde.

Y Nomadiaid yw’r unig dîm o Gymru sydd ar ôl yn y gystadleuaeth y tymor yma.

Bydd y gemau yn cael ei chwarae ar benwythnos Chwefror 16/17.