Cei Connah yn ennill Cwpan Cymru JD

Football – FAW Welsh Cup – Final – Aberystwyth Town v Connahs Quay Nomads
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 6 May 2018, 16:11

Tîm Andy Morrison yn ennill y 131ain rownd derfynol Cwpan Cymru gan guro Aberystwyth ar Barc Latham. Dyma’r tro cyntaf i Gei Connah godi tlws Cwpan Cymru.

Llwyddodd Cei Connah i guro Aberystwyth yn rownd derfynol Cwpan Cymru gan sicrhau eu henw ar y tlws am y tro cyntaf yn eu hanes.

O flaen torf o dros 1,400 sgoriodd Cei Connah deirgwaith yn yr hanner cyntaf, Michael Bakare ar ôl 20 munud cyn i Michael Wilde ddyblu’r fantais pum munud yn ddiweddarach. Sgoriodd Wilde eto pum munud o’r egwyl, cyn i Ryan Wade benio Aber yn ôl i’r gêm eiliadau cyn chwiban yr egwyl.

Er i Malcolm Melvin daro’r trawst i Aberystwyth, Cei Connah cafodd y gorau o’r chwarae drwy’r ail hanner a seliodd Andy Owens y fuddugoliaeth wedi 90munud o chwarae.

Yn sgil y canlyniad, mi fydd Y Bala nawr yn camu i gemau rhagbrofol Cynghrair Europa gyda Derwyddon Cefn yn sicrhau eu lle yn rown derfynol y gemau ail gyfle.

Bydd camerau sgorio ar Gampws Cyncoed ar gyfer rownd gynderfynol y gemau ail gyfle nos Sadwrn nesaf (12/5) lle bydd Met Caerdydd yn croesau’r Barri.