Cei Connah yw gobaith Cymru yn Ewrop

cei connah belarws
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 11 Jul 2018, 10:38

Mae hi wedi bod yn haf anodd i glybiau Cymru yn Ewrop gan i’r Bala a’r Derwyddon golli yn rownd gynrabrofol Cynghrair Europa, cyn i’r Seintiau golli’n drwm yn eu cymal cyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr – tybed os all Cei Connah godi calonnau’r Cymry yn eu cymal cyntaf yn erbyn Shakhytor Soligorsk yn Y Rhyl ar nos Iau, 12 Gorffennaf.

Bydd hi’n gêm galed i hogiau Andy Morrison gan fod Shakhytor Soligorsk ar rediad o 12 gêm heb golli yn Uwch Gynghrair Belarws ac ond wedi ildio pum gôl mewn 15 gêm gynghrair y tymor hwn.

Mae’r garfan yn llawn chwaraewr rhyngwladol ac roedd Soligorsk o fewn un rownd o gyrraedd rownd y grwpiau yng Nghynghrair Europa pan gollon nhw yn erbyn PSV Eindhoven yn y gemau ail gyfle yn 2014/15.

Ond mae Cei Connah wedi dangos fod ganddyn nhw’r gallu i lwyddo ar y llwyfan Ewropeaidd ar ôl curo Stabaek, ac ennill y cymal cyntaf yn erbyn HJK Helsinki yn eu dau dymor diwethaf yn Ewrop.

Bydd uchafbwyntiau’r cymal cyntaf i’w gweld ar wefan Sgorio brynhawn Gwener, 13 Gorffennaf.