Clybiau Cymru ar y ffordd i San Marino a Lithuania yng Nghyngrair Europa

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 12 Jun 2018, 12:26

Clybiau o San Marino a Lithuania sy’n disgwyl Y Bala a Derwyddon Cefn yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa.

Bydd Y Bala oddi cartref yn gyntaf ac yn cael eu hystyried yn ffefrynnau yn erbyn Tre Fiori o San Marino.

Dyma’r clwb isaf o ran detholion yn y rownd yma ac er bod ganddynt brofiad Ewropeaidd maent yn dal i ddisgwyl am eu buddugoliaeth gyntaf.

Ar y llaw arall mae’r Derwyddon wedi cael gêm anodd yn erbyn Trakai o Lithuania.

Bydd tîm Huw Griffiths gartref yn gyntaf cyn teithio i ddwyrain ewrop i gwrdd â thîm sydd wedi cael cryn lwyddiant yn ddiweddar.
Fe gyrhaeddon nhw’r drydedd rownd ragbrofol yn y gystadleuaeth yma tymor diwethaf gan ennill yn erbyn St Johnstone ac IFK Norrkoping o Sweden.

Un o sêr y tîm yw cyn chwaraewr canol cae Everton, Diniyar Bilyaletdinov.

Bydd y gemau ar yr 28ain o Fehefin a’r 5ed o Orffennaf.