Clybiau Cymru’n cystadlu’n Ewrop

Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mawrth, 3 Jul 2018, 10:09

Mae’r Derwyddon a’r Bala’n brysur baratoi at yr ail gymal yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa.

05/07
FK Trakai (1) v (1) Derwyddon Cefn
Y Bala (0) v (3) Tre Fiori

Roedd hi’n noson hanesyddol i’r Derwyddon nos Iau ddiwethaf wrth i James Davies sgorio gôl gyntaf y clwb yn Ewrop yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa 2018/19.

Ond fe unionodd Trakai y sgôr yn hwyr yn y gêm ac felly mae gan y clwb o Lithwania y fantais o fod wedi sgorio ‘gôl oddi cartref’ cyn yr ail gymal yn Stadiwm Alytus.

Bydd angen i dîm Huw Griffiths sgorio yn erbyn y clwb sy’n 3ydd yn A Lyga Lithwania os am unrhyw obaith o gamu i’r rownd nesaf i herio Irtysh Pavlodar o Kazakhstan.

Mae gan Y Bala fynydd i’w ddringo ar ôl colli’n drwm yn erbyn Tre Fiori yn y cymal cyntaf – eu seithfed colled yn olynol.

Mae’r Bala wedi cyrraedd Ewrop am y pumed tro yn eu hanes, ac roedd nifer yn credu mae eleni oedd y flwyddyn y byddai criw Colin Caton yn ennill rownd Ewropeaidd am y tro cyntaf gan mae Tre Fiori o San Marino yw’r clwb gwannaf yn Ewrop eleni (yn ôl rhestr y detholion).

Ond yn dilyn hanner cyntaf trychinebus i’r Bala fe lwyddodd Tre Fiori i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn Ewrop.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Stadiwm Corbett Sports, Y Rhyl nos Iau am 18:30 ac mi fydd yr uchafbwyntiau i’w gweld ar wefan Sgorio ddydd Gwener.

Mae’r Derwyddon a’r Bala’n brwydro am eu lle i ymuno gyda Cei Connah yn ‘rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa’ – bydd Cei Connah yn herio Shakhtyor Soligorsk o Felarws ar y 12fed a’r 19eg o Orffennaf.

Bydd Y Seintiau Newydd yn teithio i Facedonia i wynebu Shkendija ar y 10fed o Orffennaf yn ‘rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr’, cyn yr ail gymal yn Neuadd y Parc ar y 17eg o Orffennaf.