Cyhoeddi Carfan Cymru ‘C’ i wynebu Lloegr ‘C’

International Football – Women’s Under-17 Friendly – Wales U17 v Hungary U17
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 28 Feb 2018, 13:16

Mae rheolwr tîm Cymru ‘C’, Mark Jones, wedi cyhoeddi ei garfan i wynebu Lloegr ‘C’ ar ddydd Mawrth 20fed o Fawrth ar Barc Jenner Y Barri. Mi fydd y gêm yn fyw ar-lein ar sianel Facebook a YouTube Sgorio, yn ogystal â gwefan S4C gyda’r gic gyntaf am 7:30.

Bydd Sêr Uwch Gynghrair Cymru JD yn cynrychioli Cymru ‘C’ yn eu gêm gyfeillgar ar Barc Jenner Y Barri ar ddydd Mawrth yr 20fed o Fawrth yn erbyn Lloegr ‘C’.

Cyn-reolwr Caerfyrddin a Phort Talbot, Mark Jones, yw rheolwr y tîm, gyda cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Owain Tudur Jones, hefyd yn rhan o’r Y tîm rheoli fel is-reolwr.

Carfan Cymru ‘C’ v Lloegr – 20/03/18
GOLWYR:
Ashley Morris (Y Bala)
Mike Lewis (Y Barri)

AMDDIFFYNWYR:
Craig Williams (Y Drenewydd)
Chris Hugh (Y Barri)
Naim Arsan (Derwyddon Cefn)
Connell Rawlinson (Y Seintiau Newydd)
Kai Edwards (Cei Connah)
Mike Pearson (Cei Connah)

CANOL CAE:
Aeron Edwards (Y Seintiau Newydd)
Chris Venables (Y Bala)
Eliot Evans (Met Caerdydd)
James Owen (Cei Connah)
Jordan Cotterill (Y Barri)
Danny Gosset (Bangor)
YMOSODWYR:
Adam Roscrow (Met Caerdydd)
John Owen (Aberystwyth)
Kayne McLaggon (Y Barri)
Toby Jones (Llandudno)