Cyhoeddi Carfan Cymru i wynebu Denmarc

giggs 1
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 5 Nov 2018, 17:07

Ryan Giggs yn enwi carfan o 26 i wynebu Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Wener, 16 Tachwedd. Bydd S4C yn darlledu’r gêm yn fyw am 7:25, gyda’r gic gyntaf am 7:45.

Byddai buddugoliaeth yn erbyn Denmarc yn sicrhau lle Cymru yng Nghynghrair A ar gyfer cystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd 2020, yn ogystal â lle yn y gemau ail-gyfle am le yn Ewro 2020.

Mae Cymru ar hyn o bryd ar frig Cynghrair B Grŵp 4, dau bwynt yn glir o Denmarc yn yr ail safle.

Bydd Cymru hefyd yn wynebu Albania mewn gêm gyfeillgar ar ddydd Mawrth, 20 Tachwedd.

Mae amddiffynnwr Anderlecht James Lawrence, 26, wedi ei enwi yn y garfan am y tro cyntaf.

Mae Neil Taylor yn dychwelyd i’r garfan ryngwladol ac mae Ben Davies wedi ei wahardd o’r gemau.

Carfan Cymru i wynebu Denmarc ac Albania:
GOLWYR: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Barnsley);

AMDDIFFYNWYR: Connor Roberts (Abertawe), Chris Gunter (Reading), Ashley Williams (c) (Everton – ar fenthyg yn Stoke), James Chester (Aston Villa), Chris Mepham (Brentford), Ethan Ampadu (Chelsea), Tom Lockyer (Bristol Rovers), James Lawrence (Anderlecht), Paul Dummett (Newcastle), Neil Taylor (Aston Villa);

CANOL CAE: Joe Allen (Stoke), Matt Smith (Machester City – ar fenthyg yn FC Twente), Aaron Ramsey (Arsenal), Andy King (Caerlŷr), George Thomas (Caerlŷr – ar fenthyg yn Scunthorpe), Harry Wilson (Lerpwl – ar fenthyg yn Derby County), David Brooks (Bournemouth), Daniel James (Abertawe);

YMOSODWYR: Ben Woodburn (Lerpwl – ar fenthyg yn Sheffield United), Tom Lawrence (Derby County), Tyler Roberts (Leeds United), Sam Vokes (Burnley), Gareth Bale (Real Madrid).