Cyhoeddi Gemau Byw Rownd Gynderfynol Cwpan Cymru JD

Football – FAW Welsh Cup – 2nd Round Draw
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 9 Mar 2018, 12:31

Cei Connah i wynebu Bangor yn Stadiwm Corbett Sport Y Rhyl yn fyw ar S4C nos Sadwrn 7fed Ebrill, gyda’r gic gyntaf am 19:35. Hefyd mi fydd Sgorio yn darlledu’r gêm rhwng Y Drenewydd ag Aberystwyth o Faes Tegid Y Bala yn fyw ar Facebook a gwefan S4C ar ddydd Sul yr 8fed o Ebrill, gyda’r gic gyntaf am 12:00.

Llwyddodd tîm Andy Morrison i guro’r Seintiau Newydd 2-1 yn rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru gan sicrhau fod Y Seintiau ddim yn cyrraedd y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers wyth mlynedd!

Bydd Cei Connah felly yn cwrdd â Bangor yn Stadiwm Corbett Sports Y Rhyl ar gyfer y rownd gynderfynol – gyda’r gêm yn fyw ar Sgorio nos Sadwrn y 7fed o Ebrill.

Dyma’r timau roedd yn cystadlu yn rownd derfynol Cwpan Cymru 1998, lle llwyddodd Fangor i ennill 4-3 ar giciau o’r smotyn.

Yn yr ail gêm yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru bydd Y Drenewydd yn herio Aberystwyth ar Faes Tegid Y Bala. Bydd darllediad byw o’r gêm ar dudalen Facebook Sgorio yn ogystal â gwefan S4C, gyda’r gic gyntaf am 12:00.

Aeth Y Drenewydd yr holl ffordd i rownd derfynol Cwpan Cymru yn 2015 – ond i golli 0-2 yn erbyn Y Seintiau Newydd. Llwyddodd Aber hefyd i gyrraedd y rownd derfynol yn 2014, ond i’r Seintiau eto gipio’r gwpan wrth drechu 2-3.

Rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD
Cei Connah v Bangor – dydd Sadwrn 7fed Ebrill, yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am 19:35
Y Drenewydd v Aberystwyth – dydd Sul 8fed Ebrill, yn fyw ar Facebook Sgorio a gwefan S4C gyda’r gic gyntaf am 12:00.