Cyhoeddi gemau byw Sgorio

sgorio
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 5 Aug 2018, 12:00

Yn dilyn y cyhoeddiad o drefn gemau’r tymor newydd mae Sgorio, S4C a’r Gymdeithas Bêl-Droed wedi dewis yr wyth gêm gyntaf fydd yn cael eu darlledu o wahanol gystadlaethau ac ar amrywiaeth o blatfformau.

Rhestr gemau llawn Uwch Gynghrair Cymru 2018/19

Bydd tymor Sgorio yn dechrau ar nos Wener, 10 Awst gyda darllediad byw ar Facebook o’r gêm rhwng Y Bala a Chaerfyrddin o Faes Tegid.

Y dydd Sul canlynol, 12 Awst cawn groesawu’r newydd-ddyfodiaid Caernarfon yn ôl i’r Uwch Gynghrair gan ddarlledu’r gêm o’r Oval rhwng Caernarfon a Derwyddon Cefn yn fyw ar S4C.

Ar nos Wener, 28 Awst cawn hefyd gyfle i groesawu Llanelli yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru, gan ddarlledu’r gem rhwng Llanelli a’r Barri yn fyw o Barc Stebonheath ar S4C.

Gemau byw Sgorio:
10/08 – Y Bala v Caerfyrddin – (Facebook Live) – 1945
12/08 – Caernarfon v Derwyddon Cefn (S4C) – 1715
17/08 – Aberystwyth v Met Caerdydd (S4C) – 1935
24/08 – Llanelli v Y Barri (S4C) – 1935
01/09 – Derwyddon Cefn v Llandudno (S4C) – 1930
15/09 – Aberystwyth v Y Bala (S4C) – 1930
22/09 – Llandudno v Cei Connah (S4C) – 1930
30/09 – Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd (S4C) – 1245