Cymru ‘C’ i wynebu Lloegr ‘C’ mewn gêm gyfeillgar

International Football – Women’s Under-17 Friendly – Wales U17 v Hungary U17
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 16 Mar 2018, 17:21

Bydd tîm Cymru ‘C’, sydd llawn sêr Uwch Gynghrair Cymru, yn croesawu Lloegr ‘C’ i Barc Jenner Y Barri nos Fawrth, Mawrth 20. Mi fydd Sgorio yn darlledu’r gêm yn fyw ar dudalen Facebook a YouTube Sgorio, yn ogystal â gwefan S4C.

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi gêm gyfeillgar rhwng Cymru ‘C’ a Lloegr ‘C’ ar Barc Jenner Y Barri nos Fawrth, Mawrth 20.

Mi fydd camerâu Sgorio yno i ddarlledu’r gêm gyfan yn fyw o 19:30 ar lwyfannau Facebook, Youtube a gwefan S4C.

Rheolwr y tîm Mark Jones. Llwyddodd Jones i godi Cwpan Cymru fel rheolwr Caerfyrddin yn 2008 yn ogystal â chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru gyda Port Talbot. Is-reolwr y tîm yw cyn chwaraewr canol cae Cymru, Owain Tudur Jones.

Mae’r garfan llawn sêr o’r Uwch Gynghrair, gydag Aeron Edwards, Chris Venables ac Adam Roscrow ymhlith yr enwau.

Carfan Cymru ‘C’
Ashley Morris – Y Bala
Mike Lewis – Y Barri
Chris Hugh – Y Barri
Connell Rawlinson – Y Seintiau Newydd
Kai Edwards – Cei Connah
Mike Pearson – Cei Connah
Naim Arsan – Derwyddon Cefn
Craig Williams – Y Drenewydd
Aeron Edwards – Y Seintiau Newydd
Chris Venables – Y Bala
Danny Gosset – Bangor
Jordan Cotterill – Y Barri
Guto Williams – Bangor
Noah Edwards – Prestatyn
Adam Roscrow – Met Caerdydd
Eliot Evans – Met Caerdydd
John Owen – Aberystwyth
Toby Jones – Llandudno