CYMRU: Cyhoeddi gemau rhagbrofol Ewro 2020

Football – UEFA Euro 2020 Draw Dublin
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 2 Dec 2018, 16:23

Bydd Cymru yn cystadlu yng ngrŵp E yng ngemau rhagbrofol Ewro 2020. Fe fydd Croatia, Slofacia, Hwngari ac Azerbaijan hefyd yn cystadlu yn y grŵp am eu lle yn Ewro 2020, cystadleuaeth sy’n cael ei gynnal ar draws Ewrop am y tro cyntaf yn hanes pencampwriaeth ryngwladol Ewrop UEFA.

Fideo: Ymateb Ryan Giggs i gemau rowndiau rhagbrofol Ewro 20202

Mewn seremoni yn Nulyn ar ddydd Sul yr 2il o Ragfyr cafodd Cymru eu dewis i gystadlu yng ngrŵp E yn gemau rhagbrofol Ewro 2020.

Bydd Cymru yn cystadlu am eu lle ym mhencampwriaeth Ewrop gyda Chroatia, Slofacia, Hwngari ac Azerbaijan.

Gan gofio yn ôl i Ewro 2016, bydd selogion y Wal Goch yn cofio’r fuddugoliaeth hanesyddol yn Bordeaux lle llwyddodd Cymru i ennill eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth wrth guro Slofacia 1-2 – Gareth Bale a Hal Robson-Kanu yn rhwydo.

Fideo: Ymateb Marco Rossi, rheolwr Hwngari.

Hwngari oedd gwrthwynebwyr cyntaf John Toshack wrth y llyw yn 2005, Craig Bellamy yn rhwydo dwywaith i sicrhau’r fuddugoliaeth (2-0) mewn gêm gyfeillgar.

Dyw Cymru erioed wedi colli yn erbyn Azerbaijan … ond dyw Cymru erioed wedi curo Croatia!

Fideo: Ymateb Zlatko Dalić, rheolwr Croatia

Roedd cyn reolwr Cymru, Chris Coleman yn llwyddiannus wrth arwain y cochion i Bencampwriaeth Ewrop UEFA yn 2016, ond â fydd Ryan Giggs yr un mor llwyddiannus?


Gemau Cymru yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2020

Cymru v Slofacia – Sul, Mawrth 24
Croatia v Cymru – Sadwrn, 8 Mehefin
Hwngari v Cymru – Mawrth, 11 Mehefin
Cymru v Azerbaijan – Gwener, 6 Medi
Slofacia v Cymru – Iau, 10 Hydref
Cymru v Croatia – Sul, 13 Hydref
Azerbaijan v Cymru – Sul, 16 Tachwedd
Cymru v Hwngari – Mawrth, 19 Tachwedd

Bydd gemau Cymru yng ngrŵp E i gyd yn fyw ar S4C.