Cymru i wynebu Sbaen yn Stadiwm Principality

International Football – UEFA Euro 2012 – Qualifying Group G – Wales v England
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 15 May 2018, 13:52

Bydd Cymru’n dychwelyd i Stadiwm Principality ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen ar ddydd Iau, Hydref 11. Tydi Cymru heb chwarae yn y stadiwm ers 2011, sef gêm gystadleuol gyntaf Gary Speed fel rheolwr y tîm cenedlaethol – gyda’r tîm yn colli 0-2 i Loegr.

Bydd Cymru yn wynebu Sbaen ar nos Iau, Hydref 11eg yn Stadiwm y Principality. Dywedodd Jonathan Ford, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at chwarae yn erbyn un o dimau mwyaf llwyddiannus pêl-droed rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae hwn yn gyfle gwych i’n cefnogwyr wylio tîm arbennig gyda chwaraewyr o’r radd flaenaf. Rydym eisiau rhoi’r cyfle i bawb gael gwylio’r gêm ac mae chwarae’n Stadiwm y Principality yn ein galluogi i wneud hyn.”

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru wynebu Sbaen ers 1985, pan sgoriodd Ian Rush (2) a Mark Hughes mewn buddugoliaeth o 3-0 mewn ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd FIFA yn y Cae Ras yn Wrecsam.

Cyn y gêm honno, roedd y ddau dîm wedi wynebu ei gilydd ar bedwar achlysur arall, gyda dwy gêm gyfartal a Sbaen yn ennill y ddwy gêm arall.

Mae Sbaen ymysg y ffefrynnau i guro Cwpan y Byd FIFA yn Rwsia yn yr haf, ble y bydden nhw’n wynebu Portiwgal, Morocco ac Iran yn Grŵp B.

Ddydd Llun, fe gyhoeddodd y Gymdeithas Bêl-droed bydd holl gemau cartref Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA a gemau rhagbforol Ewropeaidd yn cael eu cynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yng Nghynghrair y Cenhedloedd, bydd Cymru’n cystad lu yn erbyn Denmarc a Gweriniaeth Iwerddon cyn i’r enwau gael eu tynnu ar gyfer ymgyrch ragbrofol EWRO 2020 UEFA ym mis Rhagfyry.