Cymru i wynebu Trinidad a Tobago ar y Cae Ras

Football – International Friendly – Mexico v Wales
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 17 Dec 2018, 17:29

Bydd Cymru yn dychwelyd i’r Cae Ras yn Wrecsam am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Trinidad a Tobago ar 20 Mawrth 2019.

Bydd cyn amddiffynnwr Wrecsam ac Abertawe, Dennis Lawrence, yn dod a’i dîm i’r Cae Ras ar gyfer yr ail gêm yn unig rhwng y ddwy wlad.

Cyfarfu’r ddwy wlad am y tro cyntaf mewn gêm gyfeillgar ym mis Mai 2006, gêm welodd Cymru’n ennill 2-1 yn Graz, Awstria gyda Gareth Bale yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru fel eilydd yn yr ail hanner.

Y tro diwethaf i Gymru chwarae ar Y Cae Ras, maes pêl-droed rhyngwladol hynnaf y byd, oedd ym mis Chwefror 2008 pan chwalwyd Norwy 3-0.

Dywedodd Ryan Giggs, fydd yn paratoi ei dîm ar gyfer gêm ragbrofol gyntaf Cymru yn Euro 2020 yn erbyn Slofacia yng Nghaerdydd pedwar diwrnod yn ddiweddarach, ei fod wrth ei fodd gallu dychwelyd i’r Cae Ras.

“Dwi’n falch iawn ein bod yn gallu chwarae yn y Cae Ras am y tro cyntaf mewn deng mlynedd. Roedd y gefnogaeth yn anhygoel yn ystod y sesiwn hyfforddi agored yno ym mis Mai, gan danio ein dyhead i chwarae gêm lawn eto yn y cae hanesyddol.

“Bydd Trinidad a Tobago yn brawf diddorol i ni ac yn gyfle grêt i baratoi cyn ein hymgyrch ragbrofol Euro 2020.”