Edinson Cavani yn sgorio unig gôl y gêm wrth i Wrwgwai godi tlws Cwpan Tsieina
Er i Gymru drechu Tsieina yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan Tsieina o 6-0, gyda Gareth Bale yn rhwydo hat-tric wrth dorri record sgorio holl hanes Cymru, roedd Wrwgwai yn rhy gryf i dîm Ryan Giggs wrth i Edinson Cavani sgorio unig gôl y gêm yn rownd derfynol y gystadleuaeth.
Gêm nesaf Cymru fydd yn erbyn Mecsico ar Fai 28 mewn gêm gyfeillgar yn Pasadena, California cyn eu ymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.
Ar y diwrnod yma ym 1992, chwaraeodd Kit Symons ei gêm gyntaf erioed i Gymru.