Cyntaf yn erbyn ail yn UG Cymru

A34I6990e
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 15 Mar 2018, 11:23

Dim ond un gêm fydd yn cael ei chwarae yn UG Cymru dros y penwythnos wrth i’r Bala fentro i Neuadd y Parc nos Wener gan obeithio cau’r bwlch ar y pencampwyr.

Mae’r Seintiau 12 pwynt yn glir ar frig tabl UGC – ac angen dim mwy na saith pwynt o’u chwe gêm sy’n weddill i sicrhau’r bencampwriaeth.

Yn dilyn eu colled yn erbyn Cei Connah yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ac yna eu gêm gyfartal yn erbyn Met Caerdydd, mae’r Seintiau wedi mynd dwy gêm heb ennill am y tro cyntaf y tymor hwn.

Dim ond un pwynt sy’n gwahanu’r tri thîm yn y ras am yr ail safle (Bala, Cei Connah, Bangor), ond byddai buddugoliaeth i’r Bala nos Wener yn eu codi bedwar pwynt yn glir o’r gweddill.

Mae tîm Colin Caton ar rediad cryf ac ond wedi colli un o’u 11 gêm ddiwethaf – ond fe ddaeth y golled honno gartref yn erbyn YSN (0-3).

Tydi’r Bala heb sgorio yn erbyn YSN yn eu dwy gêm yn UGC y tymor hwn – ac yn rhyfeddol, dyw’r Bala heb sgorio mwy na dwywaith mewn unrhyw gêm ers mis Hydref.

Bydd Y Bala’n gobeithio ail-adrodd campau fis Ebrill diwethaf pan enillon nhw yn erbyn Y Seintiau Newydd am y tro cyntaf erioed, ac hynny yn rownd derfynol Cwpan Cymru (2-1).

Gemau diwethaf:
Y Bala 0-3 Y Seintiau Newydd (02/01/18)
Y Seintiau Newydd 3-0 Y Bala (19/08/17)