Derwyddon Cefn v Llandudno

trail board
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 12 Jan 2018, 15:48

Mi fydd hi’n achlysur arbennig ar y Graig brynhawn Sadwrn pan bydd y Derwyddon a Llandudno yn cystadlu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf. Y gêm yn fyw ar S4C am 17:00, gyda’r gic gyntaf am 17:15.

Hon yw gêm fawr y penwythnos gan y bydd y tîm buddugol yn sicrhau lle yn y Chwech Uchaf, a cewch weld y cyfan yn fyw ar S4C.

Byddai pwynt yn ddigon i’r Derwyddon i sicrhau lle yn yr hanner uchaf am y tro cyntaf yn eu hanes, ond mae Llandudno wedi bod yn gryf yn ddiweddar ac mi fydd hogiau Iwan Williams yn hyderus o’u gallu i guro ar y Graig.

Dyw Llandudno ond wedi colli un o’u saith gêm ddiwethaf, er bod tair o rheiny wedi gorffen yn ddi-sgôr.

Doedd Llandudno heb ildio mewn 360 munud cyn ildio’n hwyr yn erbyn Y Bala ddydd Sadwrn diwethaf.

Adeg yma’r tymor diwethaf, roedd gan y Derwyddon 19pt yn y 10fed safle – cynnydd mawr eleni gan eu bod yn 6ed gyda 30pt.

Derwyddon Cefn v Llandudno – yn fyw ar S4C am 17:00 ddydd Sadwrn gyda’r gic gyntaf am 17:15.