Derwyddon Cefn yn ennill rownd derfynol y gemau ail gyfle

cefn
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 20 May 2018, 14:35

Sgoriodd James Davies unig gôl y gêm wrth i dîm Huw Griffiths guro Met Caerdydd ar y Graig i sicrhau eu lle yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa.

Bydd Derwyddon Cefn yn ymuno â’r Seintiau Newydd, Cei Connah a’r Bala wrth gynrychioli Uwch Gynghrair Cymru yn Ewrop y tymor nesaf.

Llwyddodd Cefn i guro Met Caerdydd ar y Graig diolch i gôl James Davies wedi 16’.

Dyma’r ail dro i Huw Griffiths sicrhau gêm Ewropeaidd i Cefn – y tro cyntaf yn ôl yn haf 2012 wedi iddynt gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru 2011/12 (y rheolau wedi newid bellach).

MYPA o’r Ffindir oedd eu gwrthwynebwyr yn Ewrop, ac wedi gêm ddi-sgôr yn y cymal cyntaf, fe gollodd y Derwyddon 5-0 yn yr ail gymal.

Heddiw mewn hanes

22 Hydref

Ar y diwrnod yma ym 1955 llwyddodd Cymru i drechu Lloegr am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd.