Dethol Gemau Rownd Gynderfynol Cwpan Cymru JD

Cwpan Cymru

Cafodd yr enwau eu tynnu allan o’r het ar gyfer gemau rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD yn fyw ar Heno S4C nos Lun. Oherwydd y tywydd drwg dros y penwythnos cafodd tair gêm o rownd yr wyth olaf eu gohirio, gyda’r gemau yn cael eu chwarae heno (nos Fawrth).

Bydd gemau rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru JD â gafodd eu gohirio dros y penwythnos yn cael eu chwarae heno (nos Fawrth) gyda’r gemau fel â ganlyn:

19:45 – Cei Connah v Y Seintiau Newydd
20:00 – Llandudno v Y Drenewydd
20:00 – Caerfyrddin v Aberystwyth

Cafodd gemau rownd gynderfynol Cwpan Cymru eu dethol yn fyw ar raglan Heno ar S4C nos Lun (5ed o Fawrth), gydag enillwyr y gêm rhwng Cei Connah a’r Seintiau Newydd heno yn croesawu Bangor.

Bydd enillwyr y gêm rhwng Llandudno a’r Drenewydd yn croesawu Caerfyrddin neu Aberystwyth, gyda’r gemau i gyd yn cael eu chwarae ar benwythnos 7/8 Ebrill.

Rownd gynderfynol Cwpan Cymru
Cei Connah / Y Seintiau Newydd v Bangor
Llandudno / Y Drenewydd v Caerfyrddin / Aberystwyth
(i’w chwarae 7/8 Ebrill)