Bangor v Penydarren yw gêm fyw Sgorio yn rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru

Cwpan Cymru

Penydarren BGC, o bumed haen pyramid pêl-droed Cymru, i deithio i Nantporth i wynebu un o gweri Uwch Gynghrair Cymru, Bangor yn rownd yr wyth olaf. Mi fydd y gêm yn fyw ar Sgorio ddydd Sul, 4 Mawrth am 14:30, gyda’r gic gyntaf am 14:30.

Cafodd gemau rownd yr wyth olaf eu dethol yn fyw ar raglen Heno ar S4C nos Lun, 30 Ionawr.

Stori’r gwpan hyd yn hyn yw taith Penydarren BGC i’r wyth olaf – mae’r tîm yn cystadlu ym mhumed haen pyramid pêl-droed Cymru ac wedi ennill chwe gêm i gyrraedd yr wyth olaf!

Mae’r tîm o Ferthyr Tudful wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth ers y rownd ragbrofol gyntaf, gan guro Penrhiwceibr Rangers, Brecon Corries, Corinthiaid Caerdydd, STM Sports, Cyffordd Llandudno a Pontypridd ar hyd y ffordd.

Seren y tîm yw Christopher Calvin-Owen, gan ymddangos yn 5-y-penwythnos y drydedd rownd a’r bedwaredd rownd wrth iddo sgorio hat-tric yn y drydedd rownd wrth i Benydarren guro Cyffordd Llandudno 0-4 – a sgoriodd ddwywaith mewn buddugoliaeth dros Bontypridd (1-2) i sicrhau lle’r clwb yn yr wyth olaf.

Mi fydd gemau rownd yr wyth olaf yn cael eu chwarae ar benwythnos 3-4 o Fawrth, gyda’r gemau fel â ganlyn:

Caerfyrddin v Aberystwyth
Llandudno v Y Drenewydd
Cei Connah v Y Seintiau Newydd
Bangor v Penydarren BGC

Heddiw mewn hanes

21 Mai

Ar y diwrnod yma yn 2006 cafodd Gymru gêm gyfeillgar â thîm Gwlad y Basg yn Bilbao.