Diwedd y daith i’r Derwyddon a’r Bala

Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 6 Jul 2018, 09:17

Ar ôl colli yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa mae antur Ewropeaidd Derwyddon Cefn a’r Bala wedi dod i ben.

Wedi i’r Derwyddon sicrhau gêm gyfartal yn y cymal cyntaf yn erbyn FK Trakai o Lithwania (1-1) roedd angen gôl ar dîm Huw Griffiths yn yr ail gymal oddi cartref os am unrhyw obaith o ennill.

Ond Trakai sgoriodd unig gôl y gêm wedi llai na hanner awr ar y cloc wrth i gyn-chwaraewr Everton, Diniyar Bilyaletdinov rwydo o’r smotyn yn Stadiwm Alytus i sicrhau mae Trakai oedd yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf ar ôl ennill 2-1 dros y ddau gymal.

Ni fydd y Derwyddon yn rhy siomedig o’r canlyniad gan iddynt frwydro’n galed yn erbyn y clwb gyrhaeddodd y drydedd rownd ragbrofol yng Nghynghrair Europa y tymor diwethaf.

Roedd gan Y Bala fynydd i’w ddringo yn yr ail gymal ar ôl colli’n drwm yn erbyn Tre Fiori yn y cymal cyntaf (3-0).

Ac er i’r Bala ennill y gêm ar y Belle Vue yn y Rhyl diolch i gôl Nathan Burke yn yr ail hanner (1-0), doedd hynny ddim yn ddigon wrth i’r clwb o San Marino gamu i’r rownd nesaf gyda buddugoliaeth o 3-1 dros y ddau gymal.

Mae’r Bala felly wedi colli eu pum rownd yn Ewrop hyd yma, ac roedd nifer yn credu mae eleni oedd y flwyddyn y byddai criw Colin Caton yn ennill rownd Ewropeaidd am y tro cyntaf gan mae Tre Fiori o San Marino oedd y clwb gwannaf yn Ewrop eleni (yn ôl rhestr y detholion).

Ond mae mwy o bêl-droed Ewropeaidd ar y ffordd i Gymru gan y bydd Cei Connah yn herio Shakhtyor Soligorsk o Felarws yn ‘rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa’ gyda’r cymal cyntaf i’w chwarae yn y Rhyl ar y 12fed o Orffennaf, a’r ail gymal ar y 19eg o Orffennaf.

Bydd Y Seintiau Newydd yn teithio i Facedonia i wynebu Shkendija ar y 10fed o Orffennaf yn ‘rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr’, cyn yr ail gymal yn Neuadd y Parc ar y 17eg o Orffennaf.