Dwy gôl hwyr yn sicrhau lle y Nomadiaid yn rownd gyn-derfynol Cwpan Her Irn Bru

NCM_3786
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 16 Tach 2018, 22:40

Dwy gôl yn munudau olaf y gêm yn sicrhau lle y Nomadiaid yn rownd gyn-derfynol Cwpan Her Irn Bru SPFL yr Alban ar ôl buddugoliath o 2-1 gôl dros Queens Park o’r Alban.

Sgoriodd Lewis Hawke i’r tîm cartref ar ôl 64 munud o chwarae ar barc Hampden.

Gyda dim ond deng munud yn weddill ar y cloc, llwyddodd George Horan i unioni’r sgôr i’r ymwelwyr cyn i Michael Wilde ganfod cefn y rhwyd tri munud yn ddiweddarach i gipio’r fuddugoliaeth i fechgyn Andy Morrison.

Bydd rownd gynderfynol Cwpan Her Irn Bru yn cael ei chwarae ar benwythnos Chwefror 16/17