Gareth Bale yw prif sgoriwr holl hanes Cymru

thumbnail_S4C – Cymru v Moldofa – 5.9.16
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 22 Mar 2018, 14:02

Ar ôl rhwydo hat-tric yn y fuddugoliaeth o 6-0 yn erbyn Tseina ddydd Iau, 22 Mawrth, Gareth Bale bellach yw prif sgoriwr holl hanes Cymru gyda 29 o goliau.

Ian Rush oedd yn dal y record gyda 28 o goliau i’w wlad cyn i Bale dorri’r record yn rownd gynderfynol Cwpan Tseina.

Mae Bale wedi sgorio 24 o’i 29 gôl gyda’i droed chwith, pedair gyda’i dalcen, ac un gyda’i droed dde.

Roedd hi’n gêm hanesyddol yn Nanning wrth i Ryan Giggs gymryd yr awennau am y tro cyntaf erioed i Gymru ac ni fyddai wedi gallu breuddwydio am ddechrau gwell i’w gyfnod wrth y llyw.

Nid Bale oedd yr unig un o garfan Cymru i dorri record, gan i Chris Gunter gasglu ei 86ed cap i ddod y chwaraewyr allanol gyda’r nifer fwyaf o gapiau dros Gymru – y golwr Neville Southall (92) yw’r unig un gyda mwy o gapiau i Gymru na Gunter erbyn hyn.

Sgoriodd Sam Vokes ddwywaith i ddod yr 19eg chwaraewr i daro ffigyrau dwbl i Gymru, ac mi fydd Harry Wilson yn siwr o fod yn dathlu ar ei benblwydd yn 21 ar ôl sgorio ei gôl gyntaf i’w wlad yn ei gêm gyntaf i Gymru ers pedair mlynedd a hanner.

Bydd Cymru nawr yn herio Wrwgwai neu Gweriniaeth Tsiec yn rownd derfynol Cwpan Tseina ddydd Llun, 26 Mawrth.

Heddiw mewn hanes

22 Hydref

Ar y diwrnod yma ym 1955 llwyddodd Cymru i drechu Lloegr am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd.