Gemau canol wythnos

A34I9087e

Bydd y ddau geffyl blaen yn chwarae gemau cartref yng nghanol wythnos cyn mynd benben yn fyw ar Sgorio nos Sadwrn.

Nos Fawrth, 16 Hydref

Cei Connah v Derwyddon Cefn | Nos Fawrth – 19:45
All Cei Connah agor bwlch o bum pwynt ar frig Uwch Gynghrair Cymru pe bae nhw’n curo’r Derwyddon nos Fawrth – hynny am 24 awr o leiaf.

Mae’r Nomadiaid ar dipyn o rediad ar ôl ennill eu chwe gêm ddiwethaf (4 UGC, 1 Cwpan MG, Cwpan Irn Bru).

Mae bron i ddeng mlynedd ers i’r Derwyddon ennill oddi cartref ar Lannau Dyfrdwy (Tachwedd 2008).

Canlyniadau diwethaf yn UGC:
Cei Connah: ❌✅✅✅✅
Derwyddon Cefn: ❌✅❌➖✅

Nos Fercher, 17 Hydref

Y Seintiau Newydd v Llandudno | Nos Fercher – 19:45
Ar ôl tair colled yn olynol, mae Llandudno yn mentro i Neuadd y Parc yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Dyw hi heb fod yn ddechrau da i’r tymor i dîm Iwan Williams sydd ond wedi ennill dwy o’u naw gêm agoriadol, ac ond wedi sgorio chwech o goliau.

Mae’r Seintiau ar y llaw arall wedi rhwydo 26 o goliau, ond ar ôl colli yn erbyn Cei Connah a Met Caerdydd mae’r pencampwyr mewn safle anghyfarwydd yn y tabl.

Tydi Llandudno heb sgorio ar eu tri hymweliad diwethaf â Neuadd y Parc, ers y gêm gyfartal 1-1 ym mis Awst 2015, sef y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau dîm yn UG Cymru.

Canlyniadau diwethaf yn UGC:
YSN: ✅✅➖❌✅
Llandudno: ✅✅❌❌❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar wefan Sgorio.