Giggs i gyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cwpan Tsieina dydd Iau.

Football – Wales appoint Ryan Giggs as National Team manager
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 14 Mar 2018, 16:26

Mae dechrau cyfnod newydd yn hanes pêl-droed rhyngwladol Cymru wrth i Ryan Giggs enwi ei garfan gyntaf fel rheolwr newydd Cymru yfory cyn i’r tîm hedfan i Tsieina i gystadlu yng Nghwpan Tsieina wythnos nesaf.

Bydd Giggs yn wynebu’r wasg prynhawn Iau am 12:00 yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, gyda’r cefnogwyr yn ysu i wybod pwy fydd ei gaptan? Pwy fydd yn rhan o’r tîm rheoli a lle bydd Cymru yn chwarae eu gemau cartref, Stadiwm Dinas Caerdydd neu Stadiwm y Principality?

Ar gyfer y diweddaraf o’r gynhadledd dilynnwch lwyfannau cymdeithasol Sgorio ar Trydar @sgorio a Facebook.com/sgorio.