Giggs yn cyhoeddi ei garfan gyntaf fel rheolwr Cymru

Football – Wales Squad Announcement  – China Cup 2018
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 15 Mar 2018, 12:30

Mae Ryan Giggs wedi cyhoeddi ei garfan gyntaf fel rheolwr ar y tîm cenedlaethol cyn Cwpan Tsieina wythnos nesaf. Bydd Aaron Ramsey yn methu’r daith i Tsieina oherwydd triniaeth ar anaf, gyda Giggs hefyd yn cadarnhau mae Ashley Williams fydd yn parhau fel capten ar y tim cenedlaethol.

Cyhoeddodd Ryan Giggs ei garfan gyntaf fel rheolwr Cymru Yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar ddydd Iau Mawrth 15 cyn i’r tîm hedfan i Tsieina dros y penwythnos i gystadlu yng Nghwpan Tsieina wythnos nesaf.

Un o brif destunau trafod y dydd oedd absenoldeb Aaron Ramsey o’r garfan – mi fydd chwaraewr canol cae Arsenal yn derbyn triniaeth ar anaf dros gyfnod y gemau rhyngwladol, sydd yn egluro’r absenoldeb.

Hefyd fe gyhoeddodd y rheolwr ei dîm rheoli, gyda Albert Stuivenberg, Tony Strudgwick ac Osian Roberts yn ymuno â Giggs.

Carfan Cymru ar gyfer Cwpan Tsieina:
Hennessey, Maxwell, Crowe; Williams, Chester, Davies, Gunter, Taylor, John, Roberts, Ampadu, Mepham, Lockyer; Ledley, Evans, Allen, King, Hedges, Watkins; Bale, Lawrence, Woodburn, Wilson, Bodin, Vokes, Bradshaw.

Bydd Cymru yn teithio i Tsieina wythnos nesaf i gystadlu yng Nghwpan Tsieina lle fydd Cymru yn wynebi Tsieina yn Nanning ar ddydd Iau, Mawrth 22 cyn herio Uruguay neu’r Weriniaeth Siec ar ddydd Llun, Mawrth 26 – hefyd yn Nanning.