Lincoln Red Imps yw gwrthwynebwyr nesaf y Seintiau

European Football – UEFA Europa League – Final – Liverpool FC v Sevilla FC
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 19 Jul 2018, 10:14

Ar ôl colli yn erbyn Shkendija yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr mi fydd Y Seintiau Newydd yn cael ail gyfle i flasu llwyddiant yn Ewrop gan eu bod nawr yn camu i ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa.

Fe gollodd y Seintiau’n drwm yn y cymal cyntaf yn erbyn pencampwyr Macedonia, Shkendija (5-0) ac felly doedd y disgwyliadau ddim yn rhy uchel i dîm Scott Ruscoe cyn yr ail gymal.

Ond roedd hi’n berfformiad arbennig gan y Seintiau yn yr ail gymal, a bu bron iddyn nhw greu hanes drwy fod y tîm cyntaf i erioed i droi colled o bum gôl ar ei phen mewn ail gymal – ond 4-0 oedd y sgôr terfynol yn Neuadd y Parc, ac felly colli 5-4 dros y ddau gymal oedd y canlyniad i’r clwb o Groesoswallt.

Sgoriodd Dean Ebbe, Danny Redmond a Ben Cabango i roi’r Seintiau ar y blaen cyn yr egwyl, ac roedd hi’n ddiweddglo dramatig wedi i Kurtis Byrne rwydo’n y munudau olaf, ond ni ddaeth y bumed gôl hollbwysig i hogiau Scott Ruscoe.

Bydd Y Seintiau Newydd nawr yn troi eu sylw at Gynghrair Europa, ble mae pencampwyr Gibraltar, Lincoln Red Imps yn eu disgwyl.

Fe lwyddodd y Seintiau i drechu clwb o Gibraltar y tymor diwethaf pan enillon nhw 4-3 dros ddau gymal yn erbyn Europa FC.

Bydd y cymal cyntaf yn cael ei chwarae yn Neuadd y Parc ar nos Iau, 26 Gorffennaf – a’r ail gymal oddi cartref yn Stadiwm Victoria yr wythnos ganlynol ar nos Iau, 2 Awst.

Bydd yr enillwyr yn camu i’r drydedd rownd ragbrofol ac yn wynebu unai Astana (Kazakhstan) neu Midtjylland (Denmarc), gyda cymal cyntaf y drydedd rownd yn cael ei chwarae ar dydd Iau 2 Awst.