Lloegr C i groesawu Cymru i ddinas Salford

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 24 Oct 2018, 13:00

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi heddiw (24 Hydef 2018) y bydd Lloegr C yn croesawu Cymru mewn gêm ryngwladol yn Stadiwm Peninsula, cartref Salford City, nos Fawrth, Mawrth 19 gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Mark Jones fydd yn rheoli’r tîm eto eleni gyda Owain Tudur Jones, cyn-chwaraewr Cymru fel îs-reolwr.

Colli o 2-3 gôl oedd hanes bechgyn Cymru y tro diwethaf i’r ddau ochr yma gwrdd yn ôl ym mis Mawrth ar Barc Jenner yn y Barri. Llwyddodd i gyn-ymosodwr Dagenham, Fejiri Okenabirhie rwydo hat-tric i’r ymwelwyr. Mark Jones a Chris Venables sgoriodd i Gymru a daeth Aeron Edwards yn agos yn y munudau olaf o’r gêm.

Bydd mwy o fanylion yn agosach at ddyddiad y gêm.