Parc Latham, Y Drenewydd i gynnal rownd derfynol Cwpan Cymru JD 2017/18

Football – FAW Welsh Cup – Final – The New Saints FC v Newtown AFC
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 10 Apr 2018, 13:03

Bydd rownd derfynol 131 Cwpan Cymru JD yn cael ei gynnal ar Barc Latham Y Drenewydd, lle fydd Aberystwyth yn herio Cei Connah ar ddydd Sul, Mai 6ed. Mi fydd y gêm yn fyw ar Sgorio am 14:30, gyda’r gic gyntaf am 14:45.

Dyma’r pumed tro i’r Drenewydd gynnal rownd derfynol Cwpan Cymru, y tro diwethaf yn ôl yn 2015 lle bu Y Seintiau Newydd yn fuddugol dros Y Drenewydd wrth i dîm Craig Harrison sicrhau’r trebl ddomestig.

Llwyddodd Aberystwyth i godi tlws Cwpan Cymru ar Barc Latham ym 1900, a mi fydd Neville Powell a Seamus Heath yn gobeithio cyflawni’r gamp eto yn eu tymor cyntaf wrth y llyw gydag Aber.

Dyma rownd derfynol Cwpan Cymru gyntaf Cei Connah ers 1998, gyda’r Nomadiaid yn colli i Fangor yn eu unig ymddangosiad yn rownd derfynol Cwpan Cymru hyd yn hyn.