Merched Cymru ar frig grŵp 1 gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2019

Football – FIFA Women’s World Cup 2019 – Qualifying Round Group 1 – Wales v Russia
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 12 Jun 2018, 19:59

Goliau gan Kayleigh Green (x2) a Natasha Harding yn sicrhau buddugoliaeth i Gymru yn erbyn Rwsia gyda’r tîm yn parhau eu record ddiguro ac yn dringo i frig grŵp 1 gemau rhagbrofol Cwpan y byd 2019.

Llwyddodd tim Jayne Ludlow i ennill eu ail gem mewn wythnos wrth i Gymru ddringo i frig eu grwp rhagbrofol Cwpan y Byd.

Sgoriodd Kayleigh Green ddwywaith wedi’r egwyl, gyda Natasha Harding yn rhwydo’r drydedd i selio’r fuddugoliaeth.

Mae Merched Cymru wedi ennill pump a sicrhau dwy gêm gyfartal yn eu grŵp rhagbrofol – gydag un gêm yn weddill.

Os yw Cymru yn fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yn eu gem olaf yng ngrŵp rhagbrofol 1, bydd Merched Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes blwyddyn nesaf yn Ffrainc.

Bydd Cymru yn croesawu Lloegr ar nos Wener Awst 31 mewn stadiwm sydd eto i’w gadarnhau gan y Gymdeithas Bêl-droed.