Met Caerdydd i wynebu Derwyddon Cefn yn rownd derfynol y gemau ail gyfle

Buddugoliaeth gyffyrddus i’r myfyrwyr yn erbyn Y Barri yn sicrhau eu lle yn rownd derfynol y gemau ail gyfle am yr ail dymor yn olynol!

Llwyddodd Met Caerdydd i gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle am yr ail dymor yn olynol ar ôl curo’r Barri dydd Sadwrn.

Agorwyd y sgorio gan Adam Roscrow gydag gôl Will Evans yn dilyn i ddyblu’r fantais i’r myfyrwyr ac yna peniad anffodus Callum Sainty i’w rwyd ei hun yn rhoi bechgyn Dr Edwards 3-0 gôl i fyny cyn hanner amser.

Ail gôl Roscrow yn yr ail hanner yn taflyd fwy o ddŵr oer ar obeithion yr ymwelwyr am le yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa 2018/19.

Llwyddodd y Barri i sgorio gôl gysur, gyda Jonathan Hood yn rhwydo o’r smotyn.

Y tymor diwethaf fe enillodd y myfyrwyr yn erbyn Caerfyrddin (1-2) yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, ond yna colli ym Mangor yn y ffeinal (1-0).

Fe fydd rownd derfynol y gemau ail gyfle am le yn gemau rhagbrofol Cynghrair Europa y tymor nesaf yn cael ei gynnal ar Y Graig dydd Sul 20 o Fai, gyda Derwyddon Cefn yn croesawu Met Caerdydd. Mi fydd y gêm yn fyw ar Sgorio am 12:14, gyda’r gic gyntaf am 12:25.