Met Caerdydd v Aberystwyth

04-IMG_7536
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 3 Jan 2018, 16:20

Ymunwch â Dylan Ebenezer, Nicky John a Malcolm Allen ar Gampws Cyncoed ar gyfer gêm fyw rhwng Met Caerdydd ac Aberystwyth yn rownd olaf ond un hanner cyntaf tymor Uwch Gynghrair Cymru JD, dydd Sadwrn am 5:15 gyda’r gic gyntaf am 5.30.

Roedd y gêm gyfatebol yn hunllef i fechgyn Aber gyda Joe Culshaw yn gweld cardyn coch cynnar iawn cyn i John McKenna sgorio dwy gôl i’w rwyd ei hun! Mae pethau wedi sefydlogi ar wŷr y gwyrdd a du ers mis Medi ond mae nhw dal angen pwyntiau i godi o’r gwaelodion.

Heddiw mewn hanes

22 Ebrill

Ar y diwrnod yma ym 1959 daeth Vic Rouse y chwaraewr cyntaf o'r Bedwaredd Adran yn Lloegr i ennill cap rhyngwladol.