Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd – yn fyw ar S4C

CD6
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 26 Medi 2018, 14:19

Amser cinio ddydd Sul bydd Met Caerdydd yn croesawu criw Scott Ruscoe i Gampws Cyncoed gan obeithio sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd | Dydd Sul – 12:45
Mae’r myfyrwyr yn eu trydydd tymor yn yr Uwch Gynghrair, ac ar ôl cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle yn eu dau dymor diwethaf – Ewrop yn sicr yw’r targed eleni.

Ond dyw’r Met heb fod ar eu gorau yn ddiweddar gan golli pedair o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf.

Y Seintiau Newydd sy’n dechrau’r penwythnos ar frig UG Cymru, ac mae’r cewri o Groesoswallt yn llygadu eu wythfed pencampwriaeth yn olynol.

Mae’r Seintiau ar rediad o bum gêm gynghrair heb golli, ac heb ildio gôl yn ystod y rhediad hwnnw!

Dyw’r Seintiau ond wedi ildio dwy gôl mewn saith gêm yn UGC hyd yma, gan sgorio 22 o goliau (dros 3 gôl y gêm ar gyfartaledd).

Mae naw mis wedi hedfan heibio ers i’r Seintiau drechu’r myfyrwyr yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG (1-0), ond mae’r ddwy gêm gynghrair rhwng y ddau dîm ers hynny wedi gorffen yn gyfartal.

Ymunwch â chriw Sgorio am 12:30 ar gyfer yr holl gyffro yn fyw o Gampws Cyncoed.

Canlyniadau diwethaf yn UGC:
Met Caerdydd – ❌❌✅❌❌
YSN – ✅✅✅✅❕


Bydd uchafbwyntiau holl gemau UG Cymru i’w gweld ar Sgorio bob prynhawn Llun am 5:30 ar S4C.