Mwy o Sgorio

Parc Latham
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 2 May 2018, 10:22

Rhaglen arbennig yn edrych ymlaen at rownd derfynol Cwpan Cymru JD wrth i Dylan Ebenezer gael cwmni’r cyn-flaenwr rhyngwladol Malcolm Allen ac aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru, Tomi Morgan. Cawn sgwrs gyda Neville Powell, sy’n paratoi ar gyfer ei seithfed rownd derfynol, y tro hwn gydag Aberystwyth. Bydd sylw hefyd i rownd derfynol Cwpan Ieuenctid rhwng Abertawe a Chaerdydd o Stadiwm Liberty. A bydd cyfweliad a rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal.

Mwy o Sgorio, nos Fercher am 6:30 ar S4C.