Newidiadau Ffenestr Drosglwyddo Ionawr 2018

IMG_7486

Newidiadau Ffenestr Drosglwyddo Ionawr 2018

Aberystwyth

Trosglwyddiad Gorau – Damien Allen

Y mae’r chwaraewr canol cae profiadol, Damien Allen wedi arwyddo i Aberystwyth yn dilyn cyfnod o chwe ‘mlynedd ym Mangor lle chwaraewyd dros 150 o gemau yn yr Uwch Gynghrair i’r Dinasyddion. Bu’n gwisgo lliwiau Stockport, Morecambe, Halifax a Bury cyn sgorio mewn llai na 10 munud yn ei ymddangosiad cyntaf i Fangor yn erbyn Prestatyn, 2 Ionawr 2012.

Mewn: Adam Walters (Prifysgol Aberystwyth), Damien Allen (Bangor), Craig Rogers (Bergsoyr-Idrettslag), Kurt Sherlock (Radcliffe), Tom Owens (Radcliffe)

Allan: Jonny Spittle (Cei Connah), John McKenna (-)

Y Bala

Trosglwyddiad Gorau – Robbie Pearson

Mae Robbie Pearson yn dychwelyd i Faes Tegid 18 mis ers iddo hedfan i Seland Newydd lle bu’n cynrychioli Tasman Utd. Gydag Conall Murtagh yn absennol oherwydd ymrwymiad hyfforddi i glwb pêl-droed Lerpwl, bu Pearson yn llenwi y gwagle fel chwaraewr canol cae amddiffynol i Colin Caton a’i dîm.

Mewn: John Disney (Altrincham), Lewis Short (Altrincham), Hyuga Tanner (Bolton), Robbie Pearson (Tasman Utd), Kieran Smith (Tasman Utd)

Allan: Will Bell (Rhyl)

Bangor

Trosglwyddiad Gorau – Alex Darlington

Enillodd Alex Darlington – y chwaraewr canol cae ymosodol – 18 o dlysau yn ystod yr naw mlynedd a hanner bu’n chwarae i’r Seintiau Newydd. Mae eisioes yn chwarae fel blaenwr a sgoriwyd 95 gôl mewn 144 ymddangosiad i’r Seintiau. Yn ddiweddar, enillodd Darlington ei 7fed medal yng Ngwpan y Gynghrair sy’n ei wneud yn gyfartal â record ei gyn cyd-chwaraewr, Phil Baker.

Mewn: Mohamed Alieu Sheriff (FC United), Yves Zama (Ramsbottom), Joel Bembo-Leta (Witton Albion), Alex Darlington (Y Seintiau Newydd), Sam Ashworth (Y Seintiau Newydd)

Allan: Anderson Cayola (-), James Demetriou (Y Barri)

Y Barri

Trosglwyddiad Gorau – James Demetriou

Ymunodd y blaenwr, James Demetriou â’r Barri o glwb pêl-droed Bangor. Mi sgoriodd ar ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Y Bala yn fuan yn y tymor a bu’n gystadleuaeth iach i Kayne McLaggon am y safle yn 11 dechreuol Gavin Chesterfield.

Mewn: James Demetriou (Bangor), Joaquin Rivera (Bae Caerdydd), Jonathan Hood (Port Talbot)

Allan: Elliot Scotcher (Haverfordwest), Samuel Jones (Cambrian & Clydach – ar fenthyg)

Met Caerdydd

Dim Trosglwyddiad

Caerfyrddin

Trosglwyddiad Gorau – Mark Jones

Mark Jones, y blaenwr yn dychwelyd i Barc Waundew o’r adran-îs, Lido Afan. Mae’r chwaraewr traddodiadol sy’n gwisgo’r rhif 9 yn flaenorol wedi chwarae i Lanelli, Castell-nedd Port Talbot, Lido Afan, Aberystwyth a Chaerfyrddin yn yr Uwch Gynghrair ac yn ogystal, bu sgorio 80 o goliau mewn 188 (+40) ymddangosiad.

Mewn: Aiden O’Kelly (Basingstoke), Clayton Green (Y Barri), Mark Jones (Lido Afan), Luke Bowen (Port Talbot) Reasat Islam (-), Lewis Thomas (Abertawe – ar fenthyg)

Allan: Matthew Thomas (Risca), Tyler Brock (Skewen), Kyle Williams (Taffs Well)

Derwyddon Cefn

Trosglwyddiad Gorau – Matty Owen

Mae’r chwaraewr canol cae Matty Owen wedi dychwelyd i’r Graig ar ôl cyfnodau’n chwarae gyda’r Drenewydd a Chei Connah. Serenodd i’r Drenewydd yn nhymor 2015/16 ar ôl sgorio i’r clwb yn Ewrop yn erbyn Valetta yn haf 2015.

Mewn: Matty Owen (Cei Connah), Alun Morris (Oswestry), Iwan Cartwright (Y Drewnewydd)

Allan: Kyle Parle (Saltney), Stuart Cook (Widnes), Ellis Healing (-), Matthew Eckersley (-)

Cei Connah

Trosglwyddiad Gorau – Robert Hughes

Mae’r asgwellwr twyllodrus Robert Hughes yn dychwelyd i’r Uwch Gynghrair ar gytundeb llawn amser gyda’r Derwyddon yn dilyn cyfnod yn Awstralia. Bu’n sicr o ddarparu’r bêl yn gyson o gornel y cae i’r blaenwyr Michael Wilde ac Andy Owens.

Mewn: Jonny Spittle (Aberystwyth), Andy Owen (Skelmersdale), Rob Hughes (Goulbourn Valley Suns)

Allan: Matty Owen (Derwyddon Cefn), Ian Kearney (-), Mathias Bakare (-), Melford Simpson (-), John Oyenuga (-)

Llandudno

Trosglwyddiad Gorau – Alex Lynch

Iwan Williams sydd wedi bod y fwyaf prysur allan o holl reolwyr yr Uwch Gynghrair yn ystod y ffenestr drosglwyddo wedi iddo arwyddo y gôl-geidwad Alex Lynch o Gaer ar ddiwrnod olaf y diwrnod trosglwyddo. Mae’r bachgen o Gaergybi wedi creu argraff fawr i’r Bala yn y gorffennol cyn iddo arwyddo i Gaer.

Mewn: Wes Baynes (Airbus), Jay Gibbs (Caernarfon), Iwan Williams (Caernarfon), Alex Lynch (Caer), Matty Williams (Cei Connah), Joe Carey (Llandudno Albion), Marc Evans (Melville), Robbie Parry (Y Seintiau Newydd – Ar fenthyg)

Allan: Danny Taylor (Airbus), Shaun Cavanagh (Caernarfon), Aaron Hassall (Dinbych)

Y Drenewydd

Trosglwyddiad Gorau – Alex Fletcher

Mae’r chwaraewr canol cae Alex Fletcher wedi sgorio dwy gôl yn barod yn erbyn Y Fflint a Phrestatyn ers iddo ail-ddychwelyd i Drenewydd.

Mewn: Ethan Jones (Halesowen), Alex Fletcher (Stafford Rangers), Callum Roberts (Shrewsbury – ar fenthyg)

Allan: Iwan Cartwright (Derwyddon Cefn), James Murphy (Rhyl)

Prestatyn

Arwyddiad Gorau – Oliver Buckley

Mae’r bachgen lleol Oliver Buckley wedi arwyddo i Phrestatyn gan iddo greu argraff yn syth yn ei rôl gyda gôl ar ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn y pencampwy – Y Seintiau Newydd. Mae’n chwaraewr sydd â meddylfryd ymosodol iawn sy’n obeithiol o gael cychwyn cryf i ail ran tymor yr Uwch Gynghrair er mwyn ceisio osgoi y gwymp i Gynghrair Huws Gray.

Mewn: Louis Irvine (Guilsfield), Oliver Buckley (Rhyl), Warren Adam (Conwy),

Allan: Jack Lewis (Y Fflint), Jack Kenny (-), Paul O’Neill (-)

Y Seintiau Newydd

Trosglwyddiad Gorau – Dean Ebbe

Bu sgorio y gwyddel, Dean Ebbe ar ei ymddangosiad cyntaf i’r Seintiau yng Ngwpan Cymru i ffwrdd o gartref yn erbyn Caernarfon. Gydag Greg Draper y prif sgoriwr allan o’r gêm oherwydd anaf, mae posibilrwydd y caiff Ebbe ei gyfle i wneud ei farc yn nhîm Ruscoea ar ddechrau yr ail dymor.

Mewn: Dean Ebbe (Inverness), Kevin Kauber (FK Jelgava)

Allan: Alex Darlington (Bangor), Sam Ashworth (Bangor), Callum Roberts (Shrewsbury – yn dychwelyd wedi bod ar fenthyg), Ryan Leak (Wolves – yn dychwelyd wedi bod ar fenthyg)