Parc Jenner Y Barri yw cartref rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG 2018/19

met v cambrian
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 27 Tach 2018, 09:29

Bydd Cambrian a Clydach o Adran Gyntaf Cynghrair y De yn wynebu Met Caerdydd o Uwch Gynghrair Cymru yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG 2018/19 ar Barc Jenner ar ddydd Sadwrn Ionawr 19.

Ar ôl curo deiliaid y gwpan, Y Seintiau Newydd, yn y rownd gynderfynol mae Cambrian a Clydach yn gobeithio creu hanes wrth godi tlws Cwpan y Gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes – a hawlio’r statws o fod y tîm cyntaf o du allan i’r Uwch Gynghrair i godi’r tlws!

Mae Met Caerdydd yn ymddangos yn y rownd derfynol am yr ail dymor yn olynol ar ôl i dîm Dr Christian Edwards golli 0-1 yn erbyn Y Seintiau Newydd Goedlan y Parc tymor diwethaf.

Bydd Sgorio yn darlledu rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG 2018/19 rhwng Met Caerdydd v Cambrian a Clydach yn fyw o Barc Jenner ar ddydd Sadwrn Ionawr 19 am 19:20, gyda’r gic gyntaf am 19:30.