Rhagolwg: Bangor v Derwyddon Cefn

IMG_1590
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 19 Apr 2018, 15:15

Brynhawn Sul mi fydd y Dinasyddion yn croesawu’r Derwyddon i Stadiwm VSM Bangor gyda’r cyfan yn fyw ar Sgorio am 2:45.

Dydd Sul, 22 Ebrill

Bangor v Derwyddon Cefn | Dydd Sul – 15:00 (S4C)
Cyrraedd Ewrop ydi’r nod i’r ddau glwb yma, ond mi fydd tîm Kevin Nicholson yn benderfynol o geisio sicrhau hynny cyn y gemau ail gyfle.

Mae Bangor wedi methu a sicrhau’r drwydded ddomestig i gael chwarae yn UG Cymru y tymor nesaf – mae’r clwb wedi apelio ac mi fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ddydd Iau nesaf, 26 Ebrill.

Ers i’r datganiad gael ei wneud mae Bangor wedi chwarae dwy gêm gan golli’r ddwy yn erbyn Cei Connah, felly tybed os yw’r ansicrwydd yn cael dylanwad ar berfformiad y Dinasyddion?

Mae’r Derwyddon wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf ac yn gobeithio ennill tair gêm yn olynol yn UG Cymru am y tro cyntaf ers bron i 15 mlynedd (Medi-Hydref 2003).

Gemau diwethaf:
Derwyddon Cefn 0-2 Bangor (23/02/18)
Derwyddon Cefn 0-2 Bangor (16/12/17)
Bangor 0-1 Derwyddon Cefn (27/10/17)

Bydd uchafbwyntiau holl gemau UG Cymru i’w gweld ar Sgorio ddydd Llun am 5:35 ar S4C.