Rhagolwg: Derwyddon Cefn v Cei Connah

IMG_8961
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 25 Ebr 2018, 18:16

Efallai bod Bangor wedi hawlio’r penawdau am y rhesymau anghywir, ond mae Cei Connah yn dathlu ar ôl sicrhau trwydded a felly sicrhau eu lle yn Ewrop am y trydydd tymor yn olynol.

Derwyddon Cefn v Cei Connah | Nos Wener – 19:30 (S4C)
Mae’r Nomadiaid yn hafal ar bwyntiau gyda Bangor ond mae eu gwahaniaeth goliau yn well nac un Bangor o dair gôl.

Dyw Cei Connah heb golli dim un o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon (ers mis Mawrth 2015).

Ond mae gan y Derwyddon reswm i fynd amdani hefyd gan eu bod yn llygadu’r 5ed safle yn y gobaith o sicrhau gêm gartref yn y gemau ail gyfle.

Ar ôl gorffen yn eu safle uchaf erioed y tymor diwethaf, mi fydd Andy Morrison yn benderfynol o sicrhau’r ail safle am yr ail dymor yn olynol.

Gemau diwethaf:
Cei Connah 2-1 Derwyddon Cefn (10/03/18)
Cei Connah 1-1 Derwyddon Cefn (29/12/17)
Derwyddon Cefn 0-1 Cei Connah (26/12/17)